Llywodraeth Cymru.
Mae Rhaglen Cyflymu Cynhyrchiant a Phrosesau Digidol SMART yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi ei dylunio i helpu sefydliadau ledled Cymru i ddefnyddio technolegau digidol i gynyddu cynhyrchiant a chyflymu datblygiad cynnyrch newydd (NPD). Caiff y rageln ei chyflwyno gan bartneriaeth sy’n cynnwys ITERATE Design and Innovation, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru, ac Enterprise Professional Services, ac mae’n darparu cefnogaeth arbenigol ac ymarferol ar draws dwy ffrwd:
Cyngor ar ddulliau digidol o wella cynhyrchiant, a chyfarwyddyd ar gyflymu datblygu cynnyrch newydd drwy ddefnyddio offer a thechnegau arloesol.
Mae’r gwasanaeth wedi ei ariannu’n llawn ac yn cynnwys diagnosteg 3 diwrnod i adnabod cyfleoedd a heriau, gyda’r posibilrwydd o gymorth gweithredu pellach hyd at 5 diwrnod ychwanegol. Gyda’n harbenigedd mewn Diwydiant 5.0, awtomeiddio,, gweithgynhyrchu haen-ar-haen, dylunio digidol, ac arloesi prosesau, rydym yn grymuso sefydliadau yng Nghymru i ddiogelu’r dyfodol, cynyddu gwydnwch, a masnacheiddio arloesi.
Mae’r rhaglen yn rhan allweddol o Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru ac yn cyd-fynd â Rhaglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART – gan gefnogi twf economaidd a datblygiad cynaliadwy ledled y rhanbarth.
Y Broses Gefnogi.
Rydym yn darparu proses gefnogi strwythuredig sydd â dylanwad uchel sy’n dechrau gyda chais syml ac yn symud ymlaen drwy daith diagnosteg a chynllun gweithredu wedi’i theilwra. Mae’r broses wedi ei dylunio i adnabod cyfleoedd ar gyfer cynhyrchedd ac arloesi gan ddefnyddio offer digidol blaengar. Trwy ymweliadau cydweithredol â safleoedd, dadansoddiad cynhwysfawr, a chymorth gweithredu wedi’i dargedu, rydym yn helpu sefydliadau yng Nghymru i ddatgloi gwelliannau pendant mewn effeithlonrwydd gweithredol a datblygiad cynnyrch.
Datganiad o Ddiddordeb ac Ymgeisio
Cysylltwch â ni i benderfynu a yw’ch busnes yn gymwys ar gyfer cymorth. Os ydych yn gwmni cychwynnol, bydd angen i chi ddarparu cynllun busnes a dangos eich bod mewn sefyllfa i weithredu ar ganlyniadau’r cyngor ymgynghorol a ddarperir. Os ydych yn fusnes bach neu ganolig (SME) sydd wedi’i leoli yng Nghymru, bydd angen i chi gwblhau cais byr.
Ymweliad â’r Cwmni
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd ymgynghorydd yn cysylltu â chi i drefnu i ymweliad. Bwriad yr ymweliad yw rhoi digon o wybodaeth i alluogi’r ymgynghorydd i gynnal prawf diagnostig; gan adnabod y cryfderau, y gwendidau, y cyfleoedd a’r bygythiadau ym mhrosesau datblygu cynnyrch newydd a chynhyrchiant digidol y cwmni.
Diagnosteg dros 3-Diwrnod
Yn dilyn yr ymweliad, bydd yr ymgynghorydd yn paratoi adroddiad diagnostig ysgrifenedig. Bydd yr adroddiad diagnostig yn gynhwysfawr; ac yn tynnu sylw at argymhellion ar sut i wella’r busnes yn y maes arbenigedd dan sylw. Bydd yr adroddiad yn cael ei ddarparu’n electronig, a bydd cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein yn cael ei drefnu i drafod y cynnwys.
Cefnogaeth Ddilynol
Os yw’r ymgynghorydd yn credu y gallai’r cwmni elwa o gael cefnogaeth ddilynol, yna gellir gwneud cais ychwanegol i gael cymorth i weithredu rhai o’r argymhellion neu bob un. Mae’r broses o wneud cais am gefnogaeth ddilynol am 5-diwrnod yn syml cyn belled â bod y gweithgarwch arfaethedig yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
5-Diwrnod i Weithredu
Efallai y bydd angen cynnal ymweliad arall â’r cwmni; bydd y gefnogaeth ddilynol yn cynnwys cyflwyniad i dechnolegau newydd, cymorth i fireinio prosesau neu ddatblygu cynnyrch newydd. Ar ddiwedd y cyfnod gweithredu, bydd adroddiad terfynol yn cael ei baratoi er mwyn cofnodi’r gweithgareddau a gwblhawyd a’r canlyniadau a gyflawnwyd.
Cyngor arbenigol.
Mae’r gefnogaeth wedi ei dylunio i gyd-fynd â’r amcanion masnacheiddio a’r egwyddorion datblygu cynaliadwy. Mae’r rhaglen yn defnyddio diagnostig i ddarparu cynllun gweithredu er mwyn helpu busnesau i weithredu mewn ffordd fwy clyfar a gwydn sy’n cael effaith fesuradwy ar y sefydliadau ac ar economi Cymru. Mae Rhaglen Cyflymu Cynhyrchiant a Phrosesau Digidol SMART yn cynnig arweiniad arbenigol ar amrywiaeth helaeth o feysydd arbenigedd, gan gynnwys:
- Dylunio Diwydiannol
- Dylunio Cynnyrch Peirianyddol
- Dyluniad sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
- Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu ar Raddfa Fawr
- Dylunio ar gyfer Economi Gylchol
- Dyluniad a Brandio’r Pecynwaith
- Rheolaeth a Strategaeth Ddylunio
- Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen
- Offer a Meddalwedd Digidol
- Diogelwch a Safonau Cynnyrch
- Gwelliant Parhaus
- Gweithgynhyrchu Darbodus
- Mapio Llif Gwerth Digidol
- Defnyddio Lle / Cynlluniau
- AR, VR & MR
- Efeilliaid Digidol
- Efelychu Digwyddiadau Penodol
- Awtomatiaeth (roboteg a robotau cydweithiol)
- Dysgu gyda Deallusrwydd Artiffisial a Pheiriant
- Paratoi at Ddiwydiant 4.0/5.0
Astudiaethau Achos.
Rydym ni’n cynghori ar ddulliau gweithgynhyrchu arbenigol, technoleg feddygol ac ynni glân ac rydym ni wedi helpu busnesau o bob rhan o Gymru i fod yn fwy effeithlon, i gyflymu eu prosesau datblygu cynnyrch ac i fabwysiadu technolegau digidol arloesol.