Llywodraeth Cymru.
Mae Rhaglen Cyflymu Cynhyrchiant a Phrosesau Digidol SMART yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac mae wedi ei dylunio i helpu sefydliadau ym mhob rhan o Gymru i ddefnyddio technolegau digidol er mwyn cynyddu cynhyrchiant a chyflymu’r broses o ddatblygu cynnyrch newydd (NPD). Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chyflawni mewn partneriaeth rhwng ITERATE Design and Innovation, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru ac Enterprise Professional Services, yn darparu cefnogaeth arbenigol ac ymarferol ar draws dwy ffrwd:
Cyngor ar ddulliau digidol o wella cynhyrchiant, a chanllawiau ar sut i gyflymu’r broses o ddatblygu cynnyrch newydd drwy ddefnyddio offer a thechnegau arloesol.
Mae’r gwasanaeth hwn wedi ei ariannu’n llawn ac yn cynnwys prawf diagnostig dros 3 diwrnod er mwyn adnabod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu sefydliadau. Mae opsiwn hefyd i gael cymorth ychwanegol am hyd at 5 diwrnod er mwyn rhoi’r argymhellion ar waith. Mae ein tîm yn arbenigo yn Niwydiant 5.0, awtomatiaeth, gweithgynhyrchu haen-ar-haen, dylunio digidol, a phrosesau arloesi, ac maent yn galluogi sefydliadau Cymreig i baratoi at y dyfodol, cynyddu gwydnwch a masnacheiddio arloesiadau.
Mae’r rhaglen yn rhan allweddol o Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru ac yn cyd-fynd â Rhaglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART – gan gefnogi twf economaidd a datblygiad cynaliadwy ar draws y rhanbarth.
Proses Cymorth.
Rydym yn cynnig cymorth strwythuredig ac effeithiol sy’n cychwyn â chais syml ac yn eich arwain drwy brawf diagnostig a chynllun gweithredu sydd wedi ei deilwra ar eich cyfer. Mae’r broses wedi ei dylunio i adnabod cyfleoedd i ddefnyddio offer digidol i wella cynhyrchiant ac arloesedd. Drwy gydweithio, cynnal ymweliadau â safleoedd, darparu dadansoddiad trylwyr a chynhwysfawr a rhoi cymorth i gyflawni’r cynllun gweithredu, rydym ni’n helpu sefydliadau Cymreig i wella’u heffeithlonrwydd a’u prosesau datblygu cynnyrch.
Datganiadau o Ddiddordeb a Gwneud Cais
Cysylltwch â ni i gael gwybod a yw eich busnes yn gymwys. Os ydych chi’n gwmni newydd, bydd angen i chi ddarparu cynllun busnes er mwyn dangos eich bod mewn sefyllfa addas i roi argymhellion yr ymgynghoriad ar waith. Os ydych chi’n fusnes bach neu ganolig o Gymru, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais fer.
Ymweliad
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd ymgynghorydd yn cysylltu â chi i drefnu i ymweliad. Bwriad yr ymweliad yw rhoi digon o wybodaeth i alluogi’r ymgynghorydd i gynnal prawf diagnostig; gan adnabod y cryfderau, y gwendidau, y cyfleoedd a’r bygythiadau ym mhrosesau datblygu cynnyrch newydd a chynhyrchiant digidol y cwmni.
Prawf Diagnostig dros 3-Diwrnod
Yn dilyn yr ymweliad, bydd yr ymgynghorydd yn paratoi adroddiad diagnostig ysgrifenedig. Bydd yr adroddiad diagnostig yn gynhwysfawr; ac yn tynnu sylw at argymhellion ar sut i wella’r busnes yn y maes arbenigedd dan sylw. Bydd yr adroddiad yn cael ei ddarparu’n electronig, a bydd cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein yn cael ei drefnu i drafod y cynnwys.
Cefnogaeth Ddilynol
Os yw’r ymgynghorydd yn credu y gallai’r cwmni elwa o gael cefnogaeth ddilynol, yna gellir gwneud cais ychwanegol i gael cymorth i weithredu rhai o’r argymhellion neu bob un. Mae’r broses o wneud cais am gefnogaeth ddilynol am 5-diwrnod yn syml cyn belled â bod y gweithgarwch arfaethedig yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
5-Diwrnod i Weithredu
Efallai y bydd angen cynnal ymweliad arall â’r cwmni; bydd y gefnogaeth ddilynol yn cynnwys cyflwyniad i dechnolegau newydd, cymorth i fireinio prosesau neu ddatblygu cynnyrch newydd. Ar ddiwedd y cyfnod gweithredu, bydd adroddiad terfynol yn cael ei baratoi er mwyn cofnodi’r gweithgareddau a gwblhawyd a’r canlyniadau a gyflawnwyd.
Cyngor arbenigol.
Mae’r gefnogaeth wedi ei dylunio i gyd-fynd â’r amcanion masnacheiddio a’r egwyddorion datblygu cynaliadwy. Mae’r rhaglen yn defnyddio diagnostig i ddarparu cynllun gweithredu er mwyn helpu busnesau i weithredu mewn ffordd fwy clyfar a gwydn sy’n cael effaith fesuradwy ar y sefydliadau ac ar economi Cymru. Mae Rhaglen Cyflymu Cynhyrchiant a Phrosesau Digidol SMART yn cynnig arweiniad arbenigol ar amrywiaeth helaeth o feysydd arbenigedd, gan gynnwys:
- Dylunio Diwydiannol
- Dylunio Cynnyrch Peirianyddol
- Dyluniad sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
- Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu ar Raddfa Fawr
- Dylunio ar gyfer Economi Gylchol
- Dyluniad a Brandio’r Pecynwaith
- Rheolaeth a Strategaeth Ddylunio
- Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen
- Offer a Meddalwedd Digidol
- Diogelwch a Safonau Cynnyrch
- Gwelliant Parhaus
- Gweithgynhyrchu Darbodus
- Mapio Llif Gwerth Digidol
- Defnyddio Lle / Cynlluniau
- AR, VR & MR
- Efeilliaid Digidol
- Efelychu Digwyddiadau Penodol
- Awtomatiaeth (roboteg a robotau cydweithiol)
- Dysgu gyda Deallusrwydd Artiffisial a Pheiriant
- Paratoi at Ddiwydiant 4.0/5.0
Astudiaethau Achos.
Rydym ni’n cynghori ar ddulliau gweithgynhyrchu arbenigol, technoleg feddygol ac ynni glân ac rydym ni wedi helpu busnesau o bob rhan o Gymru i fod yn fwy effeithlon, i gyflymu eu prosesau datblygu cynnyrch ac i fabwysiadu technolegau digidol arloesol.